Jonny Clayton: 'Breuddwyd' i bob chwaraewr dartiau

Jonny Clayton yw pencampwr dartiau Meistri'r PDC ar ôl curo Mervyn King yn y rownd derfynol nos Sul.

Roedd y Cymro 46 oed ar ei hôl hi o 5-3 ar un cyfnod ond fe darodd yn ôl i ennill o 11-8 yn Arena Marshall Milton Keynes a chipio gwobr o £60,000.

Mae'r fuddugoliaeth hefyd yn golygu ei fod yn gwireddu breuddwyd trwy sicrhau'r lle olaf yng nghystadleuaeth y Premier League of Darts eleni.

Dyma hefyd oedd y tro cyntaf iddo ddod i'r brig mewn cystadleuaeth o flaen camerâu teledu.