Cip tu ôl i'r llen yng nghanolfan frechu Llandudno

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau ddydd Mawrth bod bron i 440,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn coronafeirws.

Y gred yw bod tua 100,000 o'r rheiny wedi cael eu rhoi gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Gohebydd BBC Cymru, Elen Wyn aeth i safle Venue Cymru yn Llandudno - sydd bellach yn un o ganolfannau brechu Covid-19 y gogledd - i siarad â rhai sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch frechu fwyaf y mae Cymru wedi'i gweld erioed.