Endometriosis: Angen 'addysg gorfodol'

Mae'r AS Suzy Davies - a gafodd ddiagnosis o endometriosis yn ei 40-au hwyr - wedi galw am les mislif i gael ei wneud yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd fel bod pobl ifanc yn gwybod am yr arwyddion a'n gwybod pryd i gael cyngor.

"Fy mhryder ar hyn o bryd, pan fod lles mislif yn rhan o bwnc lot fwy yw eich bod yn cael athrawon bydd yn edrych am unrhyw reswm i osgoi siarad amdano fe, oherwydd mae'n bwnc sy'n achosi embaras i siarad am, er na ddylai achosi hyn," meddai.

Cafodd ei wneud yn orfodol mewn ysgolion yn Lloegr y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn disgwyl i un o'r grwpiau sy'n gweithio ar ddrafft cyfarwyddol o'r cwricwlwm newydd i ystyried pynciau fel lles mislif mewn mwy o fanylder.