'Does gan neb hawl i ddeud be' ddylai identity fi fod'

"Does gan neb hawl i ddweud wrtha i beth ddylai national identity fi fod."

Dyna neges Nikita Jones wedi iddi gael ei thargedu'n ddiweddar ar y cyfryngau cymdeithasol gan gyfrifon yn anfon negeseuon hiliol a sarhaus iddi - gan gynnwys rhai yn dweud na ddylai hi gael ystyried ei hun yn Gymraes.

Mae Ms Jones nawr eisiau gweld cwmnïau fel Twitter yn gwneud mwy i daclo casineb a hiliaeth ar eu gwefannau.