'Amser cyffrous iawn' i Glwb Pêl-droed Wrecsam

Daeth cadarnhad yn hwyr nos Fawrth fod dau o enwogion Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi cwblhau eu pryniant o glwb Pêl Droed Wrecsam.

Mae'r ddau wedi buddsoddi £2m yn y clwb sy'n chwarae yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr.

Ymhlith eu blaenoriaethau mae cynlluniau i hyrwyddo pêl-droed merched yn yr ardal.

Dywedodd Cledwyn Ashford, sy'n gweithio gydag ieuenctid clwb y Cae Ras, ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru bydd y newyddion yn denu mwy i ymuno â'r clwb..