Pris tŷ dros £200,000: Pandemig wedi sbarduno 'ras am le'

Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru dros £200,000 am y tro cyntaf, yn ôl Mynegai Prisiau Tai'r Principality.

Roedd 18 o'r 22 sir yng Nghymru wedi gweld y prisiau uchaf erioed yn nhri mis olaf 2020.

Fodd bynnag, roedd gwerthiannau wedi gostwng 21% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019.

Mae'r pandemig wedi sbarduno "ras am le", meddai Harri Jones o Gymdeithas Adeiladu'r Principality ar raglen Dros Frecwast.