Sioeau bach: 'Ydy'r gwirfoddolwyr yn mynd i fod yna?'
Mae angen arweiniad clir i drefnwyr sioeau bach amaethyddol ar sut y bydd modd eu cynnal yn ddiogel pan ddaw'r amser i ail-afael yn y digwyddiadau, yn ôl AS a chyn-weinidog amaeth.
Mae nifer o sioeau bach eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw yn cynnal digwyddiadau am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd effaith Covid-19, yn dilyn cadarnhad na fydd y Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal yn Llanelwedd.
Mae trefnwyr Sioe Barlys yn Aberteifi, Sioe Llanfyllin, Sioe Dinbych a Fflint, Sioe Nefyn a Sioe Feirch Llambed ymhlith y digwyddiadau sydd wedi cael eu canslo yn barod.
Dywedodd Dr Edward Jones, cyn-drysorydd Sioe Môn, wrth Dros Frecwast fore Iau bod ansicrwydd a fydd gwirfoddolwyr yn parhau i gefnogi digwyddiadau o'r fath yn dilyn bwlch o ddwy flynedd.
Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i gydweithio gyda sioeau bach er mwyn cydymffurfio â pha bynnag reolau fydd mewn grym yn y dyfodol.