Collais fy nhad i HIV/AIDS
Roedd Christopher Thomas yn dioddef o'r cyflwr haemoffilia sy'n golygu nad yw'r gwaed yn gallu ceulo'n iawn. Fel triniaeth i'r cyflwr roedd Chris yn derbyn gwaed a phlasma ffactor VIII, sef protein sy'n hanfodol ar gyfer ceulo'r gwaed.
Yn 1984, fe dderbyniodd Chris rownd o ffactor VIII oedd wedi'i heintio â HIV. Bu'n byw gyda'r cyflwr am chwe mlynedd, cyn marw o AIDS yn 1990.
Yma, mae ei ferch Rachel McGuinness yn sôn am sut ymdopodd y teulu gyda'r diagnosis gyda phrin dim gwybodaeth na dealltwriaeth o'r cyflwr.