'Dwi'n gweld hi'n anoddach canolbwyntio o adra'
Ddydd Gwener, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford y gallai holl blant oed cynradd a rhai disgyblion uwchradd ddychwelyd i'r ysgol o ddydd Llun, 15 Mawrth os ydy sefyllfa Covid-19 yn parhau i wella.
Ond beth yw barn y disgyblion am hynny?
Bu Cymru Fyw yn holi rhai disgyblion chweched dosbarth ar draws Cymru.