'Rhyddhad mawr' i deulu wrth i reolau brechu newid

Mae tad wedi dweud ei fod yn "rhyddhad mawr" y bydd ei fab, sydd ag anableddau dysgu, yn cael derbyn brechlyn wedi newid i'r drefn o flaenoriaethu.

Dywed y Parchedig John Gillibrand, sy'n offeiriad ym Mhontarddulais, ei fod "mor falch" y bydd ei fab, Adam, sydd yn ei 20au ac mewn cartref preswyl, yn cael pigiad yn gynt na'r disgwyl.

Roedd Dr Gillibrand wedi dadlau y dylai ei fab, a miloedd o bobl eraill tebyg sydd ag anableddau dysgu ac mewn cartrefi preswyl, fod mewn categori uwch er mwyn cael eu brechu'n gynt.

Ond yr wythnos yma, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd a olygai y bydd gofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau dysgu neu salwch meddwl difrifol yn cael eu brechu'n syth.