'Diolch am bob cyfraniad i Ambiwlans Awyr Cymru'
Wrth i elusen Ambiwlans Awyr Cymru ddathlu ei phen blwydd yn ugain oed ar Ddydd Gŵyl Dewi, dywed un o'r gwirfoddolwyr cyntaf fod y diolch i'r bobl sydd wedi gwneud y cyfan yn bosib.
Dywed Mark James fod cyfraniadau y cyhoedd yn allweddol gan bod yn rhaid i'r elusen gael £8m y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth.
Mae'r gwasanaeth wedi ateb oddeutu 38,000 o alwadau ers ei sefydlu ac wedi datblygiad diweddar o gael gwasanaeth bob awr o'r dydd - y bwriad yw ehangu eto yn y dyfodol.