Cynnydd enfawr mewn rhestrau aros am driniaeth ysbyty

Oherwydd pwysau'r pandemig mae rhestrau aros am driniaeth ysbyty yng Nghymru yn hirach nac erioed.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae nifer y bobl sy'n aros dros 12 mis am driniaethau arferol wedi codi o 11 i dros 1,300 mewn blwyddyn.

Mae 185 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi bod yn aros dros 18 mis am lawdriniaeth llygaid - doedd yr un claf wedi bod yn disgwyl cyhyd yr adeg yma y llynedd.

Yng Nghaerdydd a'r Fro mae nifer y bobl sydd wedi treulio rhwng blwyddyn a 18 mis ar y rhestrau aros wedi codi o 150 i dros 5,000.

Yn ôl un economegydd iechyd fe allai hi fod yn flynyddoedd cyn i'r sefyllfa fod 'nôl fel yr oedd hi.