'Erioed wedi bod yng Nghymru, ond yn siarad Cymraeg'
Penderfynodd Philip Mac a' Ghoill o Iwerddon ddysgu Cymraeg ar ôl mynychu cynhadledd astudiaethau Celtaidd yng Nghaeredin, ond dyw erioed wedi bod yng Nghymru!
"Roedd e wedi codi cywilydd arna'i do'n i ddim yn gallu deall neu siarad gair o Gymraeg," meddai.
Ar ôl blwyddyn o ddysgu mae Philip yn rhugl, ac mae'n gobeithio gallu teithio i Gymru am y tro cyntaf pan fydd y cyfnod clo'n dod i ben.