Fan lles heddlu cyntaf Cymru yn 'cadw staff yn saff'

Mae Heddlu'r Gogledd wedi mabwysiadu cerbyd newydd fydd yn cefnogi eu swyddogion wrth iddyn nhw ddelio â digwyddiadau.

Y llu ydy'r cyntaf yng Nghymru i gael "fan les", sy'n cynnig lloches, cegin fach a thoiled i heddweision.

Cafodd ei brynu gan gangen Ffederasiwn yr Heddlu yn y rhanbarth, sy'n ei ddisgrifio fel "cam mawr ymlaen".

'Nôl ym mis Rhagfyr, rhybuddiodd y Ffederasiwn bod ysbryd yn isel ymhlith staff yr heddlu.

Roedd 65% o'r rheiny a ymatebodd i'w harolwg yn dweud bod y pandemig wedi cael effaith negyddol arnyn nhw yn eu gwaith.

Yn ôl Trystan Bevan, un o swyddogion y Ffederasiwn yn y gogledd, mae'r cerbyd pwrpasol yn arwydd o newid mewn agweddau.