Chwe mlynedd ar ôl diagnosis MS Siân Roberts, dyma ei stori hi.

Mae Siân Roberts yn wreiddiol o Bencader yn Sir Gaerfyrddin ond mae'n byw yn Nhrefor, Gwynedd, gyda'i gŵr Dafydd lle fagon nhw dri o blant.

Chwe mlynedd yn ôl cafodd ddiagnosis o multiple sclerosis, sef cyflwr hunanimiwn sy'n ymosod ar y brif system nerfol gan effeithio ar symudiad y coesau a breichiau, balans a golwg ymhlith pethau eraill.