Diogelwch merched: 'Di'o methu cario 'mlaen fel hyn'

Mae nifer o ferched wedi bod yn rhannu eu profiadau o aflonyddu rhywiol ar gyfryngau cymdeithasol fel Twitter, yn sgil achos diweddar o ddiflaniad Sarah Everard.

Yn ôl arolwg gan YouGov, mae 97% o ferched rhwng 18-24 wedi profi aflonyddu rhywiol.

Mae Lorna Prichard wedi rhannu ei profiadau: "Bob tro dwi'n mynd am dro, pob tro dwi'n mynd am bike ride ar ben fy hun, hyd yn oed os mae'n ganol y dydd, os dwi'n rhywle lle does 'na ddim llawer o bobl... dwi ar alert."

"Di'o methu cario 'mlaen fel hyn."