Beth mae Dewi Pws yn ei fethu am y theatr?

Blwyddyn union ers i theatrau Cymru gau eu drysau oherwydd y pandemig, mae 'na alw ar i'r cronfeydd cymorth barhau i gefnogi gweithwyr llawrydd ynghyd â chanolfannau celfyddydol.

Yn ôl ymgyrchwyr mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi "chwalu" y sector yn llwyr.

Ddydd Mawrth bydd Creu Cymru yn lansio ymgyrch #HiraethuAmdanat i geisio tynnu sylw at effaith y pandemig ar y celfyddydau.

Un sy'n cefnogi'r ymgyrch ydy'r cerddor Dewi Pws, fu'n rhannu'r hyn mae ef yn ei fethu am y theatr.