Hwyluso'r broses o ddod o hyd i dermau Cymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad newydd i "gryfhau adnoddau'r Gymraeg o ddydd i ddydd".
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd Gweinidog y Gymraeg mai nod y cynllun ydy ei gwneud hi'n haws i unigolion sy'n dysgu'r iaith "wybod lle i fynd i gael termau".
Ychwanegodd Eluned Morgan y byddai'r ymgynghoriad hefyd yn cyfrannu at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.