'Dwi 'di gwaedu bob tro dwi 'di chwarae yn erbyn o!'

Roedd yr oedi i gystadleuaeth Euro 2020 yn siom i nifer fawr o gefnogwyr pêl-droed Cymru llynedd, ond i un aelod o'r garfan yn arbennig, roedd yn gyfle i ganolbwyntio ar wella o anaf a pharatoi at 2021.

Nid oedd disgwyl i'r chwaraewr canol cae Joe Allen gael unrhyw ran yn y gystadleuaeth y llynedd, ond bellach mae'n ôl yn y garfan am y tro cyntaf ers Tachwedd 2019, ac yn barod ar gyfer gemau nesaf ei wlad.

Y tîm ar frig detholion y byd, Gwlad Belg, yw'r gwrthwynebwyr cyntaf wrth i Gymru ddechrau ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2022.

Mae'r garfan yn gyfarwydd iawn â'r enwau mawr yn nhîm y Belgiaid, ond i Allen mae absenoldeb Marouane Fellaini yn cael ei groesawu yn dilyn sawl brwydr rhwng y ddau dros y blynyddoedd.

Ond mae carfan Cymru hefyd wedi colli enwau mawr - wrth i Aaron Ramsey dynnu'n ôl gydag anaf.

Fore Mawrth, daeth cadarnhad bod yr amddiffynwyr Ben Davies a Tom Lockyer hefyd wedi gadael y garfan oherwydd anafiadau.

Roedd Joe Allen yn sgwrsio gyda Dafydd Pritchard.