Diffibriliwr Moel Famau 'yna os fydd rhaid'
Mae diffibriliwr wedi'i osod ar gopa uchaf Bryniau Clwyd yn dilyn galwadau am well diogelwch cyhoeddus mewn mannau anghysbell.
Wedi'i leoli ar fryn Moel Famau rhwng maes parcio Penbarras a Thŵr y Jiwbili, mae'r diffibriliwr newydd yn gam tuag at ddiogelu cerddwyr wrth i fwy o bobl fentro allan i fannau gwledig yn ystod y pandemig.
Dywedodd Tomos Hughes o'r Gwasanaeth Ambiwlans bod yr offer tua 100m o'r copa, ac y byddai ar gael "os bydd rhaid" ei ddefnyddio mewn argyfwng.