Jess Davies: 'Mae fy lluniau noeth yn cael eu dwyn a'u gwerthu ar-lein'
Beth sy'n digwydd i berson os yw ei gwybodaeth bersonol a lluniau personol yn cael eu dwyn ar-lein?
Mae'r model, Jess Davies, wedi bod yn holi'r cwestiynau yna yn ei rhaglen ddogfen 'When Nudes are Stolen' sydd ar gael nawr ar iPlayer.
Fe ddechreuodd y cyn-gystadleuydd Miss Wales o Aberystwyth fodelu i gylchgronau fel Zoo, FHM a Loaded yn 18 oed.
Ond nid oedd ganddi unrhyw syniad ar y pryd y byddai ei delweddau'n cael eu defnyddio i gael arian gan ddynion ledled y byd.
Mae lluniau o bobl - menywod yn bennaf - yn aml iawn yn cael eu masnachu a'u gwerthu mewn pecynnau rhwng sgamwyr.
Yna maen nhw'n dynwared y menywod hynny i gael arian allan o ddioddefwyr diarwybod.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd Jess: "Mae e'n digwydd trwy'r amser.
"Roedden ni'n gweld [yn y rhaglen] cannoedd ar filoedd o luniau o ferched yn cael eu defnyddio ac mae'n siŵr bod lot o ferched ddim yn gwybod bod e'n cael ei wneud i nhw.
"Yn y dechrau, o'n i'n meddwl 'oh, it's quite a compliment', ond nawr 10 mlynedd ymlaen fi'n teimlo fel mae e'n digwydd trwy'r amser."
Mae'n dweud bod ei hunaniaeth (identity) yn cael ei "ddwyn yn gyson oddi arna i".
Mae sawl enghraifft o broffiliau ffug ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag enwau gwahanol, ond lluniau o Jess yn cael eu defnyddio.
"Dwi erioed wedi gwneud llun yn gwbl noeth, ond roeddwn i'n ymddangos yn ddi-dop yn y cylchgronau hyn," meddai wrth BBC Three.
"Nid oes yr un o fersiynau print y cylchgronau yn bodoli mwyach, ond mae'n edrych nad yw'r lluniau o'r amser hwnnw byth yn diflannu."