Beirniadu cynlluniau i daclo anhwylderau bwyta
Mae Llywodraeth y DU wedi cael ei hannog i beidio defnyddio mesur BMI - Body Mass Index - er mwyn penderfynu a yw pwysau person yn iach.
Mewn adroddiad, mae Pwyllgor Merched a Chydraddoldeb San Steffan yn dweud fod BMI yn cyfrannu at anhwylderau bwyta, a phryder am ddelwedd gorfforol.
Dadl aelodau seneddol oedd y dylid defnyddio dull sy'n ystyried gwahaniaethau mewn oedran, ethnigrwydd ac elfennau eraill, a blaenoriaethu dewisiadau bywyd dros bwysau cywir.
Mae Lara Rebecca o Gaerdydd wedi bod ag anhwylder bwyta yn y gorffennol, a bu'n ymateb i'r adroddiad ar Dros Frecwast fore Gwener.
Fe wnaeth hi gael trafferthion yn ceisio cael cymorth am nad oedd ei BMI yn ddigon isel.