Ymchwil Covid-19: Galw am samplau gwaed dioddefwyr

Mae gwyddonwyr yn galw am bobl sydd wedi dal Covid-19 i roi gwaed er mwyn helpu gydag astudiaeth geneteg arloesol.

Mae'r astudiaeth GenOMICC Covid-19, dolen allanol, sy'n cael ei chyflawni yng Nghymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn dadansoddi genynnau pobl sydd wedi dal y feirws.

Y bwriad yw darganfod pam fod rhai wedi cael symptomau ysgafn, neu ddim symptomau o gwbl, tra bod eraill wedi mynd yn hynod o sâl.

Mae Dr Dylan Jones yn ddarlithydd mewn gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Bangor, ac ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth bu'n egluro mwy am yr ymchwil.