Ailagor tafarndai: 'Mae'r gymuned i gyd mor hapus'

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Llafur, Mark Drakeford nos Iau fwriad i ailagor tafarndai a bwytai dan do o 17 Mai - os fydd y blaid yn llywodraethu wedi etholiad 6 Mai ac os ydy achosion coronafeirws yn parhau'n isel.

Roedd y ddwy brif wrthblaid yng Nghymru - Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig - eisoes wedi datgan bwriad o'r fath os taw nhw fydd mewn grym wedi'r bleidlais.

Mae bwytai a thafarndai yn cael agor tu allan o ddydd Llun ymlaen, ac mae Rhian Davies o dafarn y Crown & Sceptre yn Llangatwg yn edrych ymlaen yn arw at allu croesawu cwsmeriaid unwaith yn rhagor wedi misoedd ar gau.