Etholiad 2021: Faint o bobl sy'n debygol o bleidleisio?

Ddydd Iau mae'n ddiwrnod Etholiad y Senedd - ond faint tybed sy'n debygol o bleidleisio?

Mae etholiadau datganoledig yng Nghymru wedi bod yn denu llai o bleidleiswyr nag etholiadau cyffredinol - dyna hefyd y patrwm yn Yr Alban.

Eleni un ystyriaeth yw effaith Covid ar frwdfrydedd pobl.

Ein gohebydd gwleidyddol James Williams sy'n bwrw golwg ar y sefyllfa.