Perchennog campfa yn 'gyffrous, ond yn bryderus' wrth ailagor

Mae canolfannau hamdden, pyllau nofio a champfeydd wedi gallu ailagor ddydd Llun wrth i ragor o reolau coronafeirws gael eu llacio.

Dywed perchennog campfa Iechyd Da yng Nghaerdydd ei fod ef a'r aelodaeth yn gyffrous i gael ailagor, ond ei fod yn poeni na fydd pobl yn heidio'n ôl.

Dywed Mered Pryce fod y gampfa wedi colli hanner ei haelodaeth yn sgil y pandemig.