Beth nesaf i'r Arglwydd Dafydd-Elis Thomas? 'Nid hunangofiant!'
Wrth drafod ei ymddeoliad, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei fod yn edrych ymlaen i ddarllen, ond nad oes ganddo fwriad i ysgrifennu hunangofiant.
"Dydw i ddim am beri diflastod i bobl fel mae llawer o bobl mewn bywyd cyhoeddus yn tueddu i 'neud," meddai.
Dywed ei fod "yn rhyddhad ac yn bleser, ond eto teimlad fy mod wedi dod i ben y dalar, bod y gwaith wedi ei gwblhau".
Yn gynharach ddydd Gwener, datgelodd ei fod wedi pleidleisio dros Mark Drakeford yn etholaeth Gorllewin Caerdydd.
Ychwanegodd ei fod wedi pleidleisio dros Lafur yn y rhanbarth "am resymau cyfeillgarwch teuluol".
Mae wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers iddo gael ei sefydlu - fel y Cynulliad - yn 1999, a bu'n Llywydd rhwng 1999 a 2011.
Cyn hynny bu'n Aelod Seneddol rhwng 1974 ac 1992, ac roedd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 ac 1991.
Ond fe adawodd Plaid Cymru yn 2016, ac fe gafodd yr AC annibynnol ei wneud yn ddirprwy weinidog dros dwristiaeth, chwaraeon a diwylliant yn Llywodraeth Lafur Cymru.