Ben Lake: 'Colled Leanne Wood yn y Rhondda yn un eitha' torcalonnus'

Mae'r Blaid Lafur wedi cipio'r Rhondda oddi ar Blaid Cymru.

Roedd hi'n fuddugoliaeth ysgubol, gyda Elizabeth 'Buffy' Williams yn ennill â mwyafrif o bron i 5,500.

Mae'n ganlyniad siomedig iawn i Blaid Cymru ac i'w cyn-arweinydd, Leanne Wood.

Disgrifiodd Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Ben Lake, y canlyniad yn y Rhondda fel un "torcalonnus" i'r blaid ac i Ms Wood.