'Ma' pobl wedi mynd â hyn yn rhy bell'
Mae'r ffermwr Gareth Wyn Jones yn dweud bod rhai unigolion "wedi mynd yn rhy bell" gyda negeseuon ato ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'n dweud bod rhywrai wedi danfon negeseuon yn bygwth bywydau ei deulu wedi iddo ofyn i gaffi figan yn y canolbarth a oedden nhw'n gwerthu llaeth buwch.
Mae rheolwyr y caffi hefyd wedi apelio ar eu tudalen Facebook o bawb "fod yn garedig i'n gilydd, beth bynnag ein credoau a gwerthoedd".
Dywed Mr Jones ei fod wedi dod â'r mater i sylw'r heddlu.