Profiad myfyrwraig o astudio yn ystod pandemig
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i nifer o bobl yn feddyliol.
I Rhian-Carys Jones, o'r Fflint, roedd dechrau cwrs prifysgol mewn dinas ddieithr yn anodd.
Yn astudio canu yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, roedd yn rhaid iddi fynychu'r rhan fwyaf o'i gwersi ar-lein yn ystod y pandemig, ac roedd cyfleoedd i gymdeithasu'n brin.
"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn," meddai.
"O ran cymdeithasu, heblaw am y bobl sy' yn y fflat, doeddech chi methu rili 'neud dim so o'n i jyst eisiau mynd adre' o hyd."
A hithau'n wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, mae hi'n meddwl bod agweddau tuag at iechyd meddwl yn gwella, ond bod dal "lle i ddatblygu i 'neud pobl yn fwy agored i sut maen nhw'n teimlo."