Covid hir: 'Mae o fel yr hangover gwaethaf'
Mae Nicky Leanne o'r Felinheli yn 32 oed ac yn byw gyda symptomau tymor hir Covid-19 ers dros flwyddyn.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd fod y symptomau'n amrywio o ddydd i ddydd.
Ond mae meddygon wedi dweud wrthi y gallai hi wynebu'r symptomau am weddill ei hoes.
"Mae o fatha'r hangover gwaetha' gyna chdi efo'r bug gwaetha' gyna chdi a ma' corff chdi'n teimlo fatha bo' chdi wedi mynd fyny'r Wyddfa," meddai Leanne.
"Ti'n cael diwrnoda' lle ti'n cofio petha' a diwrnoda' lle ti ddim yn cofio petha'. Mae 'na ddiwrnoda' lle dwi methu cerddad lawr grisia'.
"Ar ôl i Covid ada'l corff chdi, adag yna ma'r corff yn cwffio 'nôl."