'Roedd Ethan yn gymeriad mawr, yn hwyl i fod o gwmpas'

Mae teulu bachgen 17 oed o Sir Ddinbych a fu farw wedi gwrthdrawiad ffordd y llynedd yn trefnu digwyddiad fis nesaf gyda'r nod o godi arian er cof amdano.

Bu farw Ethan Ross, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dinbych, mewn ysbyty yn Stoke ar ôl cael ei gludo yno mewn hofrennydd wedi'r gwrthdrawiad ar yr A55 ger cyffordd Parc Busnes Llanelwy.

Bydd yr arian sy'n cael ei godi'n mynd at Ambiwlans Awyr Cymru a'r elusen Young Minds.

Dywed mam Ethan, Helen Ross, bod angen mwy o gymorth iechyd meddwl i fechgyn yn eu harddegau.

"Mae bywyd yn anodd iddyn nhw," meddai, "nid yn unig oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd i Ethan ond mae dysgu o adref hefyd wedi cael effaith anferth arnyn nhw.

"Er bod ffrindiau Ethan wedi cael cymorth a bod y bechgyn yn siarad gyda'i gilydd doedden nhw ddim yn barod i ofyn am help ychwanegol."

Gracie a Ffion, cyd-ddisgyblion i Ethan, sy'n rhoi blas o effaith ei farwolaeth ar ei ffrindiau.