Anhrefn Mayhill: 'Mae o'n lanast'

Roedd criw o bobl wedi ymgasglu yn ardal Mayhill, Abertawe nos Iau i gofio am berson lleol oedd wedi marw.

Buan iawn y trodd pethau'n fler gyda ceir yn cael eu rhoi ar dân a'u gwthio lawr yr allt i mewn i geir eraill.

Bu ymosodiadau ar gartrefi hefyd gyda briciau'n cael eu taflu gan falu ffenestri.

David Grundy sy'n rhoi ei argraffiadau o'r ardal fore Gwener.