'Hollol annheg' peidio cael cefnogwyr yng ngêm Caernarfon

Mae CPD Caernarfon, eu cefnogwyr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ymhlith y rheiny sydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys gêm olaf y tymor yn Uwch Gynghrair Cymru ar restr o ddigwyddiadau prawf.

Fel mae'n sefyll ni fydd cefnogwyr yn cael bod yn y gêm oni bai bod y llywodraeth yn newid eu meddwl - er bod sawl gêm bêl-droed arall eisoes wedi digwydd gyda thorf yno.

Mae'r ornest rhwng Caernarfon a'r Drenewydd yn un tyngedfennol er mwyn penderfynu pa glwb fydd yn sicrhau'r hwb ariannol o chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.