'Dio'm yn deg bod pobl ddim yn gwybod lle i fynd'

Mae un o bob tri o bobl yng Nghymru yn byw mewn tai sydd un ai yn anniogel neu'n anfforddiadwy, yn ôl Shelter Cymru.

Dywedodd yr elusen bod ei ffigyrau'n awgrymu bod dros filiwn o bobl yma wedi cael eu heffeithio.

Mae wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "brawychus" gan ychwanegu eu bod yn dangos pam y dylai cartrefi o safon fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi £2bn mewn tai fforddiadwy yn nhymor diwethaf y Senedd.

Gyda help elusen Gisda llwyddodd Levi Croft, 18 oed o Ddeiniolen, i gael lle mewn hostel i'w atal rhag digartrefedd.

Mae'n credu bod angen gwneud mwy i hysbysu pobl am y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw i'w cadw o lefydd anniogel.