Galwad i garfan Cymru yn 'anhygoel' i Rubin Colwill

Ag yntau yn 19 oed ac ond wedi chwarae chwe gwaith i Gaerdydd, roedd Rubin Colwill o Gastell-nedd yn enw annisgwyl yng ngharfan ymarfer Cymru.

Fel Ben Davies, mae'n gyn ddisgybl Ysgol Ystalyfera, a bu'n dweud wrth Dylan Griffiths y byddai'n gwireddu breuddwyd cael mynd i Euro 2020 gyda Chymru.