Achub merch wedi iddi fynd i drafferthion ar y môr
Mae Gwylwyr y Glannau yn annog pobl i beidio defnyddio dyfeisiadau aer 'inflatables' ar draethau.
Daw'r rhybudd wedi i ferch wyth oed cael ei hachub ym Mae Cinmel ger Abergele ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. Roedd ei 'inflatable' wedi mynd yn rhy bell oddi ar y lan.
"Rhaid i bobl fod yn ymwybodol bod y gwynt lleiaf yn gallu chwythu 'inflatables' i'r môr - ac os yw'r cyfarpar yn troi a'r person yn ceisio nofio i'r lan mae hynny yn gallu arwain at ganlyniadau echrydus," medd un o brif swyddogion Gwylwyr y Glannau.