Gwobr i gydnabod tîm o ymatebwyr cyntaf o Wynedd
Mae tîm o ymatebwyr cyntaf o Wynedd - sydd wedi achub bywydau yn eu cymuned leol - wedi ennill Gwobr y Frenhines am eu gwaith gwirfoddol yn ystod y pandemig.
Mae'r criw, sy'n gwasanaethu ardal Y Bermo, wedi cael eu cydnabod am addasu eu gwaith a mynd â moddion i bobl hŷn a bregus lleol.
Wedi'u hyfforddi gan y gwasanaeth ambiwlans, mae'r tîm yn ymateb i alwadau brys gan roi triniaeth cyn i ambiwlans gyrraedd, ond am eu gwaith gwirfoddol yn ystod y pandemig maen nhw wedi cael eu cydnabod.