'Cafodd dad-cu waed oedd wedi'i heintio'
Bydd pobl, beth bynnag eu rhywedd neu eu rhywioldeb, yn gallu rhoi gwaed o ddydd Llun ymlaen os ydynt wedi bod gyda'r un partner yn ystod y tri mis diwethaf - carreg filltir bwysig medd cymuned pobl LGBT+.
Daw'r newidiadau wedi adolygiad gan grŵp llywio FAIR sydd o blaid asesiad risg unigol - grŵp sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniad y GIG.
Fe ddaeth y grŵp i gasgliad bod y newidiadau yn decach ac maent yn dweud mai'r hyn sy'n bwysig yw sicrhau diogelwch y cyflenwad gwaed.
Ar Ddiwrnod Rhoi Gwaed y Byd un sy'n gwerthfawrogi mesurau diogelwch llym yw Bronwen Cruddas o Ffos y Gerddinen ger Caerffili - wyres i ddyn a gafodd waed wedi ei heintio.
Bu farw yn ei chwedegau ddeg mlynedd yn ôl a dywed ei wyres ei fod yn ei golli bob dydd. Dywed Bronwen hefyd ei bod yn gwerthfawrogi bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r mater.