'Mae peidio cael arwydd Cymraeg yn fy rhyfeddu'
Mae ymgynghorydd iaith blaenllaw a chyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith wedi dweud ei fod e'n "rhyfeddu" nad oes unrhyw arwyddion Cymraeg y tu allan i archfarchnad newydd sbon wnaeth agor yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos.
Mae llefarydd ar ran cwmni CK's wedi dweud wrth BBC Cymru bod arwyddion dwyieithog "wedi cael eu harchebu".
Dywed Meirion Prys Jones, bod "peidio cael arwydd Cymraeg y tu fas i siop yn ardal Caerfyrddin yn golygu bod rhywbeth mawr o'i le".