Mam o Gymru a tad o Dwrci, felly pwy fydd Jack a Josh yn ei gefnogi?
Pan fydd Cymru'n camu ar y cae i wynebu Twrci yn Euro 2020 ddydd Mercher, fe fydd 'na deimladau cymysg i ddau frawd o Efail Isaf ger Pontypridd.
Cafodd Jack a Josh Karadogan eu magu yng Nghymru, ac mae eu mam yn Gymraes, ond mae tad y brodyr o Dwrci.
Gobeithio am gêm gyffrous mae Josh, tra bod Jack, sy'n rhan o garfan pêl-droed dan-17 Cymru, yn gobeithio gweld o leiaf un o'r gwledydd yn symud ymlaen at rownd nesaf y gystadleuaeth.
Bydd modd dilyn Cymru v Twrci yn fyw ar ein llif byw arbennig o 16:00 ddydd Mercher.