Aaron Ramsey: 'Bydd pedwar pwynt yn ddigon'

Ar drothwy ail gêm Cymru yn Euro 2020, mae Aaron Ramsey wedi bod yn edrych nôl ar gêm Y Swistir, ac edrych ymlaen at yr her sydd o'u blaenau.

Mae chwaraewr canol cae Cymru a Juventus yn dweud y bydd pedwar pwynt yn ddigon i Gymru aros yn y gystadleuaeth, ac mae gêm nos Fercher felly yn allweddol.

Dywedodd fod Twrci yn dîm cryf ac na ddylid darllen gormod i mewn i'w colled yn erbyn Yr Eidal yn y gêm gyntaf.

Ond mae'n credu y gall Cymru gael y fuddugoliaeth fyddai'n debygol o'u rhoi yn y rownd nesaf.