Covid-19: Galw ar bobl ifanc i gael y brechlyn

Mae'r Dr Eilir Hughes, sy'n feddyg teulu ym Mhen Llŷn, yn dweud ei bod hi'n bwysig fod pobl ifanc yn cael eu brechu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf, ar ôl llwyddo i gynnig dos cyntaf i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn canol mis Ebrill.

Ers mis Ebrill mae pobl dan 30 oed wedi cael cynnig y pigiad Pfizer neu Moderna yn lle'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, ar ôl i gysylltiad â cheuladau gwaed prin gael ei gadarnhau.

Cafodd yr un cyngor ei estyn i bobl dan 40 oed ym mis Mai.

"Mae'n bwysig atgoffa nhw bod eu hamser nhw wedi dod," meddai am bobl ifanc.