'O'n i'n siarad gyda ffrindiau ac o'dd pobl ofn'

Mae Ben Davies yn ffrindiau agos gyda Christian Eriksen.

Daeth y ddau i nabod ei gilydd yn dda pan oedd y ddau yn chwarae gyda'i gilydd i glwb Tottenham Hotspur.

Roedd cysylltiad agos hefyd am fod Ben Davies wedi treulio rhan o'i blentyndod ym mamwlad Eriksen, Denmarc, pan fu ei dad yn gweithio yno am gyfnod.

Pan glywodd y newyddion erchyll fod Christian Eriksen wedi cael ataliad ar y galon yn ystod y gêm rhwng Denmarc a'r Ffindir, roedd yn ofni'r gwaethaf.

Bu'n son wrth BBC Cymru am y cyfnod pryderus yna, ac hefyd edrych ymlaen at yr ornest rhwng Cymru a Denmarc ddydd Sadwrn yn rownd 16 olaf Euro 2020.