Y cefnogwr 'ffodus' yn Amsterdam - a dau gafodd eu gwrthod

Mae rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi eu hatal rhag mynd i'r Iseldiroedd cyn gêm nesaf Cymru yn Euro 2020 yn Amsterdam.

Nid yw'r Iseldiroedd yn caniatáu ymwelwyr sydd ddim ar deithiau hanfodol.

Mae 'na un cefnogwr sy'n ddigon ffodus i fod wedi gallu teithio i Amsterdam yn dweud ei fod yn falch, ond yn "teimlo trueni" dros ei deulu a'i ffrindiau sy'n methu bod yno.

Fe fydd cefnogwyr o Ddenmarc yn cael mynd i'r gêm, os ydyn nhw'n aros yn y wlad am lai na 12 awr.