Covid-19 mewn ysbytai: Teulu yn rhannu eu stori

Cafodd chwarter y rhai sydd wedi marw o Covid-19 yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty, yn ôl ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C.

Fe gafodd cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth ei wneud i bob un o fyrddau iechyd Cymru.

Roedd 1,860 o'r rhai fu farw gyda Covid-19 ar eu tystysgrif marwolaeth rhwng dechrau'r pandemig a 1 Mai eleni "yn sicr" neu'n "debygol" o fod wedi eu heintio yn yr ysbyty.

Mae hynny yn cyfateb i 24.4% o farwolaethau Covid Cymru yn y cyfnod hwnnw.

Aeth tad 77 oed Emma Harris o Lanilltud Faerdre i'r ysbyty ar ôl torri asen yn wreiddiol, ond cyn cael ei ryddhau cafodd clwstwr o achosion ei ganfod ar ei ward.

Bu farw yn ddiweddarach gyda Covid-19, a bu Ms Harris yn rhannu eu stori gyda Dros Frecwast fore Mawrth.