Peryglu bywydau er mwyn cymryd hunanluniau
Mae'r heddlu a swyddogion rheilffyrdd yng Nghymru yn rhybuddio am gynnydd brawychus mewn hunluniau "hynod beryglus" ar y cledrau.
Mewn un achos, cafodd plentyn bach ei roi ar groesfan rheilffordd ar gyfer llun.
Mae delweddau a fideos tebyg wedi bod yn ymddangos fwyfwy ar wefannau cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Network Rail bod 433 o ddigwyddiadau difrifol wedi'u hadrodd ers dechrau pandemig Covid.
Maen nhw wedi ymuno â Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Thrafnidiaeth Cymru i lansio ymgyrch newydd yn tynnu sylw at y peryglon.