Ail gartrefi Cernyw: "Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu'n ddychrynllyd"
Dyw gwyliau'r haf ddim wedi dechrau eto ond mae Porthia, neu St Ives, dan ei sang.
Gyda chynifer ohonom yn cael gwyliau ym Mhrydain eleni mae'r diwydiant ymwelwyr yng Nghernyw yn disgwyl blwyddyn dda.
Ond does dim llanw heb drai.
Fel mewn sawl ardal sy'n dibynnu ar dwristiaeth, mae 'na bris i'w dalu.
Dyma farn Ieuan Harries a Jenefer Lowe dau o Gymry sy'n byw yn y sir.