Achub dolffin oedd yn sownd mewn mwd ger Doc Penfro

Cafodd y dolffin yma ei ffilmio yn sownd mewn mwd yn aber yr afon ger Doc Penfro ddydd Llun, wrth iddo gael ei ddal gan y llanw isel.

Roedd Carren Lewis wedi gweld y creadur yn nofio yn gynharach yn y dydd, a phan aeth yn ôl i edrych a oedd o'n iawn fe ddaeth o hyd iddo mewn trafferthion.​

Yn dilyn tipyn o ymdrech, llwyddodd i helpu'r dolffin i ddod yn rhydd a'i arwain yn ôl tuag at ddyfroedd dyfnach.

Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw fod y profiad wedi bod yn un heriol iawn, ond ei bod wedi teimlo "rhyddhad mawr" wrth ei weld yn nofio i ffwrdd eto.