Marchogaeth yn rhoi 'rhyddid' i ŵr ifanc dall o Fôn

Mae gŵr ifanc o Fôn, sy'n byw â nam golwg, yn dweud bod cyflawni gweithgareddau antur fel marchogaeth yn rhoi "rhyddid" iddo.

Ers ei eni mae Hari Roberts, 19, wedi cael Leber Ongenital Amaurosis, sef cyflwr llygaid sy'n effeithio'n bennaf ar y retina ac yn gwneud gweld yn anodd.

Ond nid yw'r cyflwr hwn yn rhwystr iddo ac mae'n annog pobl sy'n byw â chyflyrau ar eu llygaid i beidio â bod ofn rhoi cynnig ar weithgareddau newydd fel marchogaeth, dringo a rhedeg.

"Fedrwch chi wneud pethau fath â phobl eraill - mae 'na bob tro ffordd wahanol i chi sbïo ar bethau er mwyn ei wneud o!" meddai.